Ymunwch â’n Tîm

Dod yn Brif Weithredwr newydd i ni

Un Bae ar y Cyd

Rydym yn chwilio am uwch arweinydd profiadol a arweinir gan werthoedd a all greu’r amodau i’n gweithlu talentog a gwasgaredig ffynnu a’n perfformiad i wella.

Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth

Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth cynhwysol, ysbrydoledig a deinamig i ddarparu arweinyddiaeth broffesiynol i’n Nyrsys, Bydwragedd a Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol a sicrhau ein bod yn ganolog i ymrwymiad i ansawdd, diogelwch a gwelliant parhaus ein gwasanaethau.

Diolch am eich diddordeb i ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) yn un o saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru, sy’n gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, yn ogystal â rhai gwasanaethau rhanbarthol arbenigol.

Gan gwmpasu poblogaeth o tua 390,000 yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe mae gennym gyllideb o dros £1bn ac rydym yn cyflogi gweithlu o tua 13,500. Rydym yn falch o ddarparu gwasanaethau o fewn cyd-destun sydd wrth wraidd uno ac integreiddio gofal i bobl Cymru; ac yn cydnabod pwysigrwydd ein rôl fel sefydliad angori yn y rhanbarth, yn enwedig fel cyfrannwr allweddol at leihau anghydraddoldebau iechyd yn y rhanbarth.

Darllen mwy

Rydym ar daith o adferiad ac nid ydym yn tanbrisio cymhlethdod yr hyn sydd o’n blaenau. Fel Bwrdd Iechyd o ran monitro gwell ar gyfer cynllunio a chyllid; A chyda gwaith craffu yn cael ei roi ar ofal wedi’i gynllunio a heb ei drefnu, mae gennym lawer i’w wneud i wireddu’r gwelliannau y gwyddom sydd eu hangen. Nid ydym yn tanbrisio cymhlethdod yr hyn sydd o’n blaenau ond rydym yn uchelgeisiol am newid ac wedi ymrwymo i wella. Mae hynny’n cael ei ddangos gan ein gweledigaeth ddeng mlynedd uchelgeisiol i ddod yn Sefydliad o Ansawdd Uchel, gan gydnabod sut mae ansawdd a chynaliadwyedd ariannol yn mynd law yn llaw ac ni allwch gael un heb y llall. A sut byddwn yn dod yn Sefydliad o Ansawdd Uchel? Byddwn yn cyrraedd hynny trwy mabwysiadu ein mantra Un Bae ar y Cyd, gweithio fel un tîm, yn darparu ac arwain system gofal ac iechyd integredig sy’n darparu’r gofal gorau posib ar gyfer ein poblogaeth tra’n cymryd camau sylweddol i wella’n rhagweithiol iechyd ein poblogaeth.

 

Dod yn Brif Weithredwr newydd i ni

Ar ôl cael fy mhenodi’n Gadeirydd yn gynharach eleni, rwy’n gyffrous am y daith sydd o’n blaenau. Rwy’n credu’n angerddol yng ngrym gwasanaeth cyhoeddus fel grym er daioni. Cefais fy ngeni a’m magu yn Abertawe ac mae fy nghartref teuluol wastad wedi bod yn y Ddinas.Oherwydd, rwy’n rhannu’r uchelgais ar gyfer gwella ac ymrwymiad i’r bobl a wasanaethir gan BIPBA.

Darllen mwy

Bydd sicrhau llywodraethu ac arweinyddiaeth gadarn yn hanfodol i’n llwyddiant yn y dyfodol a bydd ein Prif Weithredwr newydd yn gyfrifol am weithio’n agos gyda mi a’r Bwrdd ehangach i ddarparu arweinyddiaeth strategol, datblygu a gyrru diwylliant sefydliadol, a chydweithio i gyflawni nodau’r Bwrdd Iechyd.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â hanes o weithredu ar lefel Bwrdd o fewn cyd-destun cymharol gymhleth sy’n gallu dangos profiad o arwain ac ysbrydoli gweithlu aml-broffesiynol gwasgaredig trwy daith o wella a thrawsnewid. Rydym yn deall y gall newidiadau mewn arweinyddiaeth fod yn annifyr ac felly rydym yn chwilio am unigolyn sy’n gallu arwain gyda thosturi er mwyn llywio ein pobl trwy gyfnod anodd a heriol. Rydym yn ymdrechu i gefnogi diwylliant o degwch, didwylledd a dysgu er mwyn datblygu gweithlu sydd ag ymrwymiad wrth ei galon i fyw ac arddangos y gwerthoedd hyn ym mhopeth a wnânt. I’r perwyl hwn rydym yn chwilio am Brif Weithredwr y mae ei werthoedd yn cyd-fynd â’n gwerthoedd ein hunain ac sy’n gallu dangos profiad o ymgorffori diwylliant a gwerthoedd sefydliadol yn llwyddiannus a chyflawni ymgysylltiad â’r gweithlu gan sicrhau gwell canlyniadau o ran ansawdd, perfformiad a gwasanaeth.

Am drafodaeth gyfrinachol, cysylltwch â’n hymgynghorwyr yn GatenbySanderson. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych.

Jan Williams, Cadeirydd

Neges gan Jan Williams, Cadeirydd

Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth

Fel un o saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru, rydym yn falch o ddarparu gwasanaethau o fewn cyd-destun sydd ag uno ac integreiddio gofal ar gyfer pobl Cymru yn ganolog iddo.  Trwy ddarparu gofal sylfaenol, eilaidd, trydyddol, cymunedol, iechyd meddwl ac anabledd dysgu, a gwasanaethau deintyddol, mae BIPBA wedi ymrwymo i wella bywydau ein 39,000 breswylwyr.  Rydym yn cael ein harwain gan ein gwerthoedd o ‘gofalu am ein gilydd, cydweithio, bob amser yn gwella’ – gwerthoedd rydym yn falch cafodd eu ddatblygu gan dros 6,000 o’n staff, clefiion, eu teuluoedd a gwarchodwyr.  Gyda 12,500 staff a throsiant o tua £1 biliwn, nid ydym yn sefydliad angori yn unig ar gyfer ardaloedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, ond yn bartner rhanbarthol sylweddol ar draws Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.

Rydym ar daith o adferiad a pheidiwch â diystyru cymhlethdod yr hyn sydd o’n blaenau.  Fel Bwrdd Iechyd o ran monitro gwell ar gyfer cynllunio a chyllid; a gyda chraffu wedi gosod ar ofal cynlluniedig a heb ei drefnu, mae llawer i wneud i wireddu’r newid sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau mwy diogel a gwell canlyniadau i’r rhai rydym yn eu gwasanaethu.  Rydym yn uchelgeisiol am newid ac wedi ymrwymo i welliant parhaus – mae ein ffocws ar ansawdd a diogelwch yn gadarn, a ddangoswyd gan ein Strategaeth y Bobl wedi hadnewyddu’n ddiweddar sy’n cyd-fynd â’n gweledigaeth 10-mlynedd y Bwrdd Iechyd i ddod yn Sefydliad o Ansawdd. 

Rydym yn gwybod taw ein pobl yw ein hased mwyaf.  Trwy flaenoriaethu datblygiad ein diwylliant yn unol â’n gwerthoedd a chefnogi ein staff o fewn diwylliant o degwch, didwylledd a dysg, rydym yn gwybod y gallwn gyflawni canlyniadau gwell i’r rhai yr ydym yn eu gwasanaethu a chwarae rhan ganolog yn ein dinas, ein rhanbarth, ac ar draws y GIG yng Nghymru.

Rydym nawr yn chwilio am Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth cynhwysol, ysbrydoledig a deinamig i weithio’n agos gyda’n Prif Weithredwr newydd, y Bwrdd ehangach ac ar y cyd â partneriaid system i sicrhau bod BIPBA yn gwneud cyfraniad sylweddol at wella iechyd, lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwelliannau parhaus yn ansawdd y ddarpariaeth gofal iechyd.  Bydd yr unigolyn penodedig, ynghyd â’r Cyfarwyddwr Meddygol, yn arwain ar y cyd ar yr agenda ansawdd a diogelwch a bydd yn atebol am wella iechyd y boblogaeth a gwasanaeth cleifion trwy ddarparu arweinyddiaeth, her a chefnogaeth briodol yn fewnol ac ar draws y system. 

Mae hwn yn benodiad allweddol i BIPBA  Fel arweinydd nyrsio profiadol, seiliedig ar werthoedd, sy’n ffynnu mewn amgylcheddau aml-randdeiliaid cymhleth, bydd yr unigolyn llwyddiannus yn dod â hanes o reoli portffolios amrywiol a chymhleth ac ymroddiad i adeiladu a datblygu diwylliannau sy’n cefnogi gwelliant parhaus gwasanaethau.  Rydym yn chwilio am arweinydd strategol, tosturiol sy’n gallu darparu arweinyddiaeth broffesiynol i’n Nyrsys, Bydwragedd a Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol ac ymrwymiad di-baid i sicrhau canlyniadau gwell i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. 

Os oes gennych uchelgais sy’n cyd-fynd ag un ni; ymrwymiad i gefnogi a meithrin staff i wireddu gwelliant cynaliadwy ac angerdd dros ddarparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y dinesydd, rydym yn awyddus i glywed oddi wrthych.